top of page

Cyhoeddi Rhestr Fer #LlaisAwards - Gwobrau Llais Cymru i Ferched Cymru Mewn Busnes 2024!




Mae’r #LlaisAwards, neu Gwobrau Llais Cymru i Ferched Cymru Mewn Busnes yn cael ei gynnal a’i drefnu gan gwmni marchnata a PR Llais Cymru.Ers2020 mae’n ddigwyddiad blynyddol ac unigryw sy’n dathlu cyfraniad pwysig merched i’r byd busnes yng Nghymru.

 

“Mae cefnogi a grymuso merched yn bwysig iawn i fi. Ers lansio’r llwyfan unigryw a chenedlaethol yma i ddathlu a chydnabod cyfraniad pwysig merched i’r byd busnes yn 2020, ryden ni wedi derbyndros 6,500 o enwebiadau ar gyfer busnesau o bob math ar hyd a lled Cymru. Mae’r enwebiadau a’r Gwobrau yn hwb mawr i’r merched hynny o bob oedran sy’n jyglo’i busnesau ochr yn ochr â gofynion teuluol a’r heriau iechyd a chorfforol rydym oll yn mynd trwyddynt ar adegau gwahanol mewn bywyd. Mae’n gyfnod anodd i fusnesau ac mae’n bwysicach nag erioed i gefnogi ac ysbrydoli mwy o ferched i fentro.”

Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Llais Cymru

 

Prif noddwr y Gwobrau eto eleni yw Banc Datblygu Cymru, corff sy’n angerddol am rymuso merched mewn busnes. Meddai Beverley Downes, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu’r Banc;

 

“Rydym yn falch iawn o gefnogi Llais Cymru a bod yn brif noddwr y Gwobrau arbennig a hollbwysig yma eto eleni. Mae cefnogi a helpu mwy o ferched i fentro ym maes busnes yn bwysig iawn i ni, ac mae’r Gwobrau yma yn taflu golau ar ferched sy’n llwyddo ac yn arwain y ffordd yn eu meysydd nhw. Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n dathlu’r rhai sy’n gwneud effaith positif yn eu cymunedau a’r economi leol ac mae’n bwysig dathlu hynny.”

Beverley Downes, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu

 

Eleni eto, mae Cywain sy’n rhan o Mentera, a Chanolfan S4C yr Egin yn cefnogi’r digwyddiad. Mae’r digwyddiad wedi denu noddwyr newydd eleni hefyd, gan gynnwys Adran Fusnes a Masnach y Llywodraeth sy’n nodi bod gan ferched rôl alllweddol i’w chwarae wrth dyfu’r economi leol;

 

“Adran ar gyfer tyfu’r economi yw Adran Fusnes a Masnach y Llywodraeth. Mae’r tyfiant ym musnesau sydd wedi eu harwain gan ferched yn hanfodol i’n heconomi ac ein dyfodol. Dyma pan rydym yn gyffrous i fod yn ran o Gwobrau Merched Mewn Busnes Llais Cymru eleni, yn dathlu merched busnes a’u harloesedd a llwyddiant yng Nghymru.”

Tony Taylor, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adran Fusnes a Masnach

 

Eleni, mae 14 categori yn y Gwobrau, yn adlewyrchu sectrorau amrywiol a chategoriau unigryw fel Mam Mewn Busnes, Defnydd o’r Gymraeg a chatergoi newydd sbon; ‘Pencampwr Menopôs’, sy’n cael ei noddi gan Gylchgrawn Cara, ac yn dathlu’r busnesau hynny sy’n cydnabod yr heriau sy’n wynebu merched yn y gweithle yn ystod y cyfnod hwn.

 

Yn dilynbron i 2,000 o enwebiadau eleni, ac heb fod mewn unrhyw drefn benodol, dyma’r merched sydd wedi cyraeddy rhestr fer yng Ngwobrau Llais Cymru i Ferched Cymru Mewn Busnes 2024;

 

Busnes Gwyrdd

Donna Graves, Micro Acres Wales, Pontypridd

Deborah Bedaida, Green Childminding, Caerdydd

 

Pencampwr Menopôs

Louise Adams, Petals Training, Y Bari

Nia Haf Jones, Traed Fyny, Dinbych

 

Mam Mewn Busnes

Angharad James, Fab Bears, Caerdydd

Libby Leyshon, North Cornelly Playgroup , Pen-y-bont ar Ogwr

 

Iechyd, Ffitrwydd a Lles

Sara Davies, Sara Davies Sleep Consultant, Gwynedd

Carmen Gisca, Llandudno Smiles, Llandudno

 

Gwallt a Harddwch

Ceri Wyn Jones, Cwt Bach Ceri, Rhyd-y-foel (*cyn-enillydd y categori yn 2023)

Ffion Mai Jones, Ciwticwls, Llandygai (*cyn-enillydd y categori yn 2022)

 

Dan 25 oed

Emily Doyle, em-broidery, Merthyr Tydfil

Tia Robbins, Tia Robbins Art, Pen-y-bont ar Ogwr(*cyn-enillydd y categori yn 2023)

 

Pencampwr Manwerthu

Karen Hutchings, Goose Island, Abertawe

Emma Doyle, Sweet William, Pontardawe

 

Defnydd o’r Gymraeg

Sara Roberts, Sensori Sara,Ynys Môn a Gwynedd

Manon Williams a Louise White, Angladdau Enfys Funerals, Bangor

 

Busnes Newydd

Roxanne Phillips Floyd, MysTical InfuSions, Abertawe

Einir Trimble, Einir Trimble Hypnotherapy, Aberystwyth

 

Bwyd a Diod

Hannah Worth, Bowla, Aberystwyth

Gigi Gao, Favorite Authentic Chinese, Abertawe

 

Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd

Deepa Sinah, GCRS, Caerdydd

Helen Whiteland, The Big Science Project, Llanafan

 

Menter Gymdeithasol

Emma Mary Webster, Blue Horizon Surf, Sir Benfro

Kelly Simons Evans, Mini Miners Club, Ystrad Mynach

 

Ffotograffieth, Celf a Dylunio

Steffi Andrews, Steffi Andrews Photography, Sir Drefaldwyn

Justine Dodd, Cariad Glass, Llandysul

 

Hamdden a Thwristiaeth

Tracey Toulmin o Bryn Woodlands House, Bae Colwyn (*cyn-enillydd y categori yn 2023)

Shauna Davies a Gemma Hide,Tiny Tots Town, Llanelli

 

Edrychwn ymlaen i groesawu’r merched i’r noson wobrwyo arbennig yng Nghanolfan yr Egin, Caerfyrddin, ar Nos Wener yr 20fed o Fedi er mwyn dathlu eu llwyddiant a datgelu pwy syddwedi dod i’r brig ymhob categori.

 

Am wybodaeth bellach, lluniau, neu i gyfweld Heulwen neu’r merched sydd ar y rhestr fer eleni, neu os hoffech noddi neu fynychu’r digwyddiad ebostiwch heulwen@llaiscymru.wales.


 

Comments


bottom of page